
16 09 2025
Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru
Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith. Dengys dadansoddiad y Sefydliad Dysgu a Gwaith y darperir amcangyfrif o £47 miliwn drwy ddatganoli i gyflenwi cymorth cyflogaeth ychwanegol yng Nghymru. Mae hwn yn amser allweddol i Lywodraeth Cymru gynllunio a chyflenwi cymorth cyflogaeth sydd wedi ei deilwra i anghenion cymunedau ledled y wlad.